Dau Siryf Yng Nghymru
Tra bo pob un ohonom yn
gallu meddwl am ddigon o bethau sy'n gyffredin rhwng trefi Caerfyrddin a
Hwlffordd (gan gynnwys cael eu cynrychioli yng Nghyngrair Genedlaethol
Cymru), mae 'na rywbeth arall, tipyn llai cyfarwydd inni, sy'n cysylltu'r
trefi hanesyddol hyn.
Mae'n gysylltiad hollol unigryw na all unrhyw dref arall yng Nghymru ei
frolio. A dweud y gwir, dim ond 13 tref arall trwy Brydain sydd yn gallu
dweud yr un peth. Ac o'r rheini mae'n siwr mai'r un yn Nottingham yw'r
enwocaf. Ydych chi wedi dyfalu eto?
Wel, Caerfyrddin a Hwlffordd yw'r unig drefi yng Nghymru gyfan sydd a
Siryfion (neu "Sheriffs"). Er gwaethaf statws dinasoedd fel Caerdydd ac
Abertawe, ac er gwaethaf cyfoeth hanesyddol tref fel Caemarfon, 'does
unman arall yng Nghymru all ddweud hod ganddynt Siryf yn cynrychioli'r
dref.
Yn achos Caerfyrddin gellir olrhain hanes y Siryf yn ol i'r canol oesoedd.
Bryd hynny roedd yn ffigwr pwysig a phwerus iawn, nid yn unig yn y dref
ond dros y Fwrdeistref gyfan. Ymhlith ei ddyletswyddau byddai bod yn
gyfrifol am ddatrys urhyw anghydweld am berchnogaeth tiroedd freehold yn y
dref. Erbyn heddiw, wrth gwrs, mae'r gyfraith wedi mabwysiadu'r
cyfrifoldebau a fu gan y Siryf gan adael y Siryfion modern a dim byd ond
roi seremoniol i'w chyflawni.
Yng Nghaerfyrddin, fel yn Hwlffordd, fe etholir y Siryf o blith Cynghorwyr
y Dref, ac mi fum i'n ddigon ffodus i dderbyn y fraint honno eleni. Golyga
hynny fy mod yn mynychu amrywiaeth eang lawn o ddigwyddiadau cyhoeddus gan
ddirprwyo ar ran y Maer a'r Dirprwy Faer ar achlysuron arbennig.
Dim ond unwaith y flwyddyn y bydd y 15 Siryf sydd yng Nghymru a Lloegr yn
dod at ei gilydd, a hynny i fynychu cynhadledd flynyddol Cymdeithas
Siryfion Trefi a Dinasoedd Cymru a Lloegr. Bryd hynny bydd cannoedd o
gyn-Siryfion yn ymuno a nhw, ac yn y gynhadledd ddiwethaf fe dderbyniwyd y
gwahoddiad i ymweld a Chaerfyrddin yn 2002. Bydd hyn yn dod a manteision
economaidd amlwg i'r dref gyda tua dau gant o bobl yn ymweld a'r ardal ac
yn lletya yng Nghaerfyrddin. Pobl fel Siryfion Caergaint, Norwich,
Rhydychen, Caer, Lincoln, Lichfield ac wrth gwrs yr enwog "Sheriff of
Nottingham."!
Mi Fyddai'n braf petai gem Caerfyddin yn erbyn Hwlffordd yn 2002 yn cael
ei chwarae ar benwythnos y gynhadledd honno. Yn wir, yr unig obaith sydd
gan Gaerfyrddin o chwarae un o'r trefi eraill sydd a Siryf yw trwy
gyrraedd Ewrop. A braf sylweddoli mai o'r holl drefi hynny yng Nghymru a
Lloegr, Clwb Pel-droed Caerfyddin sydd agosaf at gyrraedd y nod honno!!
This retitled article was originally produced for the
Carmarthen Football Club handbook under the title
O Gwmpas Waundew gyda Llyr Hughes Griffiths
Llyr highlights the fact that Carmarthen and Haverfordwest are the only
two towns in Wales, out of 15 in the whole of Britain, that appoint
Sheriffs. In 2002, the annual Sheriffs Conference will meet in Carmarthen.
Llyr suggests would that it would be fitting for the Cartnarthen v
Haverfordwest fixture that year to coincide with this event. Llyr, of
course, is Carmarthen's Sheriff this year.
|